SL(5)454 – Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Diwygio) (Cymru) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”) a Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (“Rheoliadau 2019”).

Mae rheoliadau 3 i 8 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2002. Mae Rheoliadau 2002 yn gweithredu Cyfarwyddeb 2001/18/EC ynghylch gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol (“Cyfarwyddeb 2001”). Mae angen y diwygiadau hyn er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2018/350 sy’n diwygio Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran asesu risg amgylcheddol organeddau a addaswyd yn enetig (“Cyfarwyddeb 2018”).

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniad o Gyfarwyddeb 2001 i adlewyrchu’r diwygiadau a wnaed iddi gan Gyfarwyddeb 2018.

Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 4 i 7 yn ymwneud â’r wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn ceisiadau am ganiatâd i ollwng uwch blanhigion a addaswyd yn enetig mewn perthynas â threialon. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r wybodaeth sydd i’w chynnwys mewn ceisiadau am ganiatâd i ollwng uwch blanhigion a addaswyd yn enetig at ddibenion masnachol. Mae’r newidiadau hyn yn angenrheidiol oherwydd bod Atodiadau III a IIIB i Gyfarwyddeb 2001 wedi eu hamnewid gan Gyfarwyddeb 2018.

Mae rheoliad 8 yn gwneud mân newidiadau i Atodlen 3 i Reoliadau 2002.

Mae rheoliad 9 yn diwygio Rheoliadau 2019 sy’n dod i rym ar y diwrnod ymadael ac a fydd yn diwygio Atodlen 3 i Reoliadau 2002. Diben y diwygiad yw hepgor darpariaeth y bydd rheoliad 8 o’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ddiangen.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 4 pwynt technegol a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae'r dyddiad trosi o 29 Medi 2019 ar gyfer Cyfarwyddeb 2018 wedi'i fethu. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod Gweinyddiaethau'r DU wedi gwneud penderfyniad cynharach i beidio â throsi Cyfarwyddeb 2018 fel rhan o baratoadau i ymadael â’r UE ar 29 Mawrth 2019. Fodd bynnag, yn dilyn ymestyn dyddiad Ymadael â’r UE i 31 Hydref 2019, mae gweinyddiaethau'r DU wedi cytuno i drosi Cyfarwyddeb 2018 ond gwnaed y penderfyniad hwn gyda dim ond amserlen fer i'w drosi. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru a yw wedi bod mewn gohebiaeth â'r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch gweithredu Cyfarwyddeb 2018 yn hwyr.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 7, sy'n mewnosod Atodlen 1A i Reoliadau 2002, mae paragraff 15(c) newydd yn cynnwys croesgyfeiriad at baragraff 14(f). Credwn y dylai'r croesgyfeiriad fod at baragraff 14(g), nid paragraff 14(f).

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

i.              Mae Adran B.4(f) o Atodiad III B I i Gyfarwyddeb 2001 (a fewnosodir gan yr Atodiad i Gyfarwyddeb 2018) yn gofyn am y wybodaeth a ganlyn mewn perthynas â rhyddhau planhigion uwch a addaswyd yn enetig:

“Description of the methods and procedures to:

(i)            avoid or minimise the spread of the GMHPs beyond the site of release;

(ii)           protect the site from intrusion by unauthorised individuals;

(iii)          prevent other organisms from entering the site or minimise such entries.“  

Nid yw'n ymddangos bod y Rheoliadau hyn yn cynnwys gofyniad cyfatebol, dim ond gwybodaeth am Atodlen 1 i Reoliadau 2002 sy'n ofynnol yn y “dulliau a gweithdrefnau i ddiogelu'r safle”. Gofynnwn pam nad yw testun Cyfarwyddeb 2018 a ddyfynnwyd uchod wedi'i adlewyrchu yn y Rheoliadau?

ii.             Yn rheoliad 7 (sy'n mewnosod Atodlen 1A i Reoliadau 2002) mae paragraff 18(c) newydd yn gofyn am ddarparu gwybodaeth am “experimental design including statistical analysis” mewn cais am gydsyniad i farchnata planhigion uwch a addaswyd yn enetig. Mae Cyfarwyddeb 2018 yn darparu'r canlynol:

“Experimental design and statistical analysis of data from field trials for comparative analysis:

(i)            Description of field studies design

(ii)           Description of relevant aspect of the receiving environments

(iii)          Statistical analysis.”

Gofynnwn pam nad yw testun Cyfarwyddeb 2018 a ddyfynnwyd uchod wedi'i adlewyrchu yn y Rheoliadau?

4.    Rheol Sefydlog 21.2(vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg.

i.              Yn rheoliad 6(13) ystyr “rhywogaethau planhigion” yw:

“(a) wild and weedy relatives, or

(b) crops.”

 

Yn fersiwn Gymraeg y Rheoliadau mae'r gair “neu” (“or”) ar goll:

 “(a) perthnasau gwyllt a chwynnog,

(b) cnydau.”

ii.             Yn rheoliad 7 o'r fersiwn Gymraeg, sy'n mewnosod Atodlen 1A i Reoliadau 2002, dylai’r paragraff 3(e) newydd fod yn 3(dd).

iii.            Yn rheoliad 7, sy'n mewnosod Atodlen 1A i Reoliadau 2002, mae paragraff 13 newydd yn gofyn am “[d]disgrifiad o nodwedd neu nodweddion y planhigyn a addaswyd yn enetig sydd wedi'u cyflwyno neu wedi'u haddasu”. Mae “traits” a “characteristics” yn cyfieithu fel “nodweddion”. Rydym yn gwerthfawrogi anhawster cyfieithu'r darpariaethau hyn, ond gofynnwn i Lywodraeth Cymru a yw'n fodlon bod y testunau Cymraeg a Saesneg yn gweithredu rhannau perthnasol Cyfarwyddeb 2018 yn briodol.

iv.            Yn rheoliad 7, sy'n mewnosod Atodlen 1A i  Reoliadau 2002, mae’r paragraff 22(a) newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd am gydsyniad i farchnata planhigion uwch a addaswyd yn enetig i ddarparu gwybodaeth am “the adverse effects arising” mewn perthynas â senario penodol. Mae'r fersiwn Gymraeg yn darllen “effeithiau amgylcheddol andwyol sy’n deillio o hynny” (“the adverse environmental effects arising”). Mae'r anghysondeb hwn yn cael effaith ar ystyr y ddarpariaeth gan fod y Rheoliadau'n gwahaniaethu rhwng effeithiau andwyol ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl ac anifeiliaid.

Mae'r un anghysondeb yn digwydd ym mharagraff 24(a)(i) newydd gyda'r geiriad “adverse effect arising”.

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau rhinweddau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu rhwymedigaethau’r UE mewn perthynas â gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol, ac felly bydd y Rheoliadau hyn yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 21 Hydref 2019 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod a nodwyd a hefyd i dynnu sylw at faterion sy'n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE.